Ysgyfarnog Fynydd

Ysgyfarnog Fynydd
Lepus timidus
500,000 o flynyddoedd Cyn y Presennol – 
Torion papur ysgyfarnog fynydd, gên llygoden gota penglog gul, dant blaen cnofil a graff yn dangos codiadau a gostyngiadau tymheredd dros gyfnod o 50,000 o flynyddoedd.

Er mor ddeniadol ein megaffawna coll, nid ydynt i gyd yn anifeiliaid mawr. Mae presenoldeb neu absenoldeb, bob yn ail, gweddillion mamaliaid bach yn yr ogofâu yn rhan annatod o’r darlun manwl ac eglur y mae’r palaeontologydd y Doethur Danielle Schreve yn chwilio amdano yn ei hymchwil. Dyma waith sy’n ymwneud â mesur effaith newid hinsawdd sydyn ar rywogaethau mamalaidd. Drwy edrych yn ôl ar y modd y mae pethau wedi dyfod a mynd dros y milenia gallwn greu darlun o’r hwn y byddwn ni i gyd yn ei wynebu yn y dyfodol.

O’r creaduriaid llai eu maint hynny, oes yna ymgorfforiad llai hudol o’n cefn gwlad na’r gwningen neu’r ysgyfarnog? Efallai ddim. Fodd bynnag, o fewn amserlen ddaearegol newydd-ddyfodiad cymharol yw’r ysgyfarnog Ewropeaidd – mudwr. Ac mae tystiolaeth gadarn yn brawf iddo fod yma erbyn yr Oes Haearn (tua 3,000 o flynyddoedd yn ôl) ond nid llawer cyn hynny.

Mewn cyferbyniad mae’r ysgyfarnog fynydd hithau wedi bod o gwmpas ers o leia’ 300,000 mil o flynyddoedd ac i’w gweld wedi ymsefydlu’n dipyn mwy parhaol. Nid dim ond yr ysgyfarnog fynydd ddaeth o Ogof y Lyncs ond yn ogystal cawn leming yr Arctig a llygoden y gwreiddiau – rhywogaethau hinsawdd oer sydd wedi hen ddiflannu o Fryniau Clwyd.

Mae’r dyfod a mynd yn codi cwestiynau diddorol ynglŷn â’r termau ‘brodorol’ neu ‘gynhenid’. Pryd y mae creadur – neu berson – yn dod (neu beidio â bod) yn ‘frodorol’ neu’n gynhenid’? Neu i’r gwrthwyneb, yn estron. Ydi’r ysgyfarnogod mynydd sydd wedi cael eu hailgyflwyno i swydd Derby a swydd Gaer, wedi bwlch o filenia yn ‘frodorol’, yn ‘ailgyflwynedig’ neu’n ‘estron’ i’r dirwedd?

Beth am yr udfil a oedd yma eisoes pan gyrhaeddodd dyn hanner miliwn o flynyddoedd yn ôl ac sydd ond wedi diflannu ers oddeutu 30,000 o flynyddoedd? Ydi’r anifail dal yn ‘frodorol’? Neu’r afanc sy’n rhan o’n ffawna Plïosenaidd (yma felly 2½ filiwn o flynyddoedd yn ôl) a oedd yma hyd y 16eg ganrif ac sydd bellach wedi dychwelyd – i ddicter llawer o dirfeddianwyr a physgotwyr Cymru a’r Alban sy’n ei ystyried yn ‘fermin’.

Rydym ni hefyd wedi dyfod a mynd, ond dim ond y ni mae’n ymddangos sydd wedi (yn eithaf diweddar) rhoi’r hawl i’n hunain i benderfynu pwy sy’n perthyn – a phwy sydd ddim.

%d bloggers like this: