
UDFIL (HIENA)
Mae Udfil yn ymwneud â’r dirwedd. Dyma waith celf wedi’i seilio ar animeiddio sydd wedi’i greu’n arbennig ar gyfer Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd, ond gan ei fod wedi’i ffurfio allan o storïau’r hollfyd o fewn ffrâm amser o filenia lluosog, mae’n berthnasol yn unrhyw le ac ym mhobman.
Gallwch gyrchu’r app yma:
iOS:
https://apps.apple.com/us/app/mr-pidcocks-ghost-menagerie/id1531094032
Android:
https://play.google.com/store/apps/details?id=com.sbectol.ghostmenagerie
Gan gymryd deuddeg rhywogaeth sydd wedi diflannu yn ganolbwynt, mae’n dal lens nid yn unig at yr hyn rydym ni wedi’i golli ond hefyd at yr olion hynny o’r diflanedig sy’n parhau yn naeareg Bryniau Clwyd ac ynom ni. Mae’n archwilio pam fod y bodau hyn yn parhau i atseinio i ni heddiw.
Mae’n waith celf ar draed, wedi’i ysbrydoli gan ‘Lwybrau Canu’ brodorion Awstralia – y llwybrau breuddwydio hynny a gymerwyd gan fodau hynafiadol wrth iddynt ‘ganu’’r byd i fodolaeth yn ystod yr Amser-breuddwydio. A hwythau wedi’u seilio ar greaduriaid ac arwyr, mae’r rhwydwaith storïau a chaneuon yn cysylltu mannau pendant megis creigiau a ffynonellau dŵr â’i gilydd. Wrth ymestyn dros filoedd o filltiroedd a chodi uwchlaw iaith lafar, maent wedi cael eu canu ers degau o filoedd o flynyddoedd – ac yn eu hunain felly, yn ‘fapiau’r cof’ sy’n galluogi pobl i ddod i hyd i’r ffordd ym mherfeddwlad eang Awstralia.
Ond yn anad dim, mae’r Llwybrau Canu yn ymwneud â’r ffordd y mae’r tir a’i hanes yn cael eu hadwaen – a’u cofio. Yn ôl Rod Mason, un o hynafgwyr pobl y Ngarigo;
Nid oedd gan ein hynafiaid lyfrau, ond roedd gennym ni gof da. Dyma ni’n ysgrifennu’n siwrnai ar y dirwedd ac yn y dirwedd, a hyd yn oed i’r dydd rydym ni’n medru darllen ein stori am yn ôl o’r man yma.
Mae gennym ni storïau o’r oes iâ, yr anifeiliaid a ddaeth, a’r anifeiliaid ag aeth – anifeiliaid nad ydych chi’n eu gweld mwyach. Felly rydym ni’n rhan o fyd difancoll.
Cyfres o ‘dotemau’ digidol yn ymgorffori trefn GPS, sydd wedi’i ysbrydoli gan ffawna coll Bryniau Clwyd yw Udfil ac mae modd cael atynt drwy ap ffôn clyfar yn rhad ac am ddim. Dim ond drwy fynd i’r afael â nhw yn y dirwedd ei hunan y mae modd dod â’r totemau yn fyw.
Maent wedi’u ffurfio allan o ddolenni animeiddiedig rhyngweithiol, sy’n ffractalau neu mandalas, wedi’u creu allan o dorluniau papur sy’n portreadu’r creaduriaid eu hunain, eu hesgyrn (o gasgliadau amgueddfeydd), eu dilynnianau DNA (wedi’u hildio gan wyddoniaeth gyfoes). Mae ymchwil yn dangos bod dim ond craffu ar ffractalau (patrymau symudol cymhleth ailadroddus) yn lleihau curiad y galon a chynhyrchu cortisol (yr hormon straen). Mae canolbwyntio’n ddwys arnynt yn ailddeffro ein hymwybyddiaeth synhwyraidd – y gallu sy’n ganolog i’n perthynas â’r dirwedd.
Yn ogystal, mae ymchwil gwyddonol yn awgrymu bod canfod y ffordd yn weithgarwch creiddiol yr ymennydd dynol a hwyrach yn sail i’w saernïaeth esblygol. Ac felly mae peri cyffro drwy fapio’r meddwl yn llesol iawn er mwyn datblygu’r ymennydd ac iechyd.
Mae Udfil felly yn creu mytholeg – wedi’i seilio ar wyddoniaeth – ar gyfer Bryniau Clwyd. Ar gyfer y sawl sydd ei angen, mae’n cynnig rheswm dros oedi yn y dirwedd. I’r rheiny nad oes angen hynny, bydd efallai yn cyfoethogi eu profiad o’r lleoliad arbennig hwn. I bob un, bydd hwn yn hwyluso siwrnai fyfyriol drwy amser a gofod, gan ledaenu goddefgarwch, golwgnewydd a llesiant gwell.