
Mae Udfil yn croesi ffiniau. Mae’n waith celf amlgyfrwng ryngweithiol wedi’i ddylanwadu gan wyddoniaeth Orllewinol, systemau gwybodaeth gynhenid a chasgliadau amgueddfeydd – y cyfan wedi’i roi drwy hidlydd diwylliannol yn ymwneud â’r Gymraeg a thirwedd.
Dychmygwyd a chyfarwyddwyd gan yr artist a’r animeiddiwr Sean Harris a greodd y ddelweddaeth wedi’i hanimeiddio ac ysgrifennu’r testunau. Mae modd dod o hyd i’w waith yma: https://echo-maker.com.
Y prif gydweithiwr gwyddonol oedd yr Athro Danielle Schreve o Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Royal Holloway, Llundain – y mae ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar gofnod ffosil mamalaid y 2.6 miliwn blynedd diwethaf. Mae esgyrn anifeiliaid yr Oes Iâ yn adrodd storïau sy’n sôn am amodau hinsawdd ac amgylchedd ansefydlog – a sut mae creaduriaid wedi ymateb i newid hinsawdd sydyn yn y gorffennol. Mae deall y grymoedd hyn yn gallu’n cynorthwyo i ragweld effaith newid yn y dyfodol, gan oleuo strategaethau cadwraeth sy’n helpu cynnal y fioamrywiaeth sy’n hanfodol ar gyfer ein llesiant. https://pure.royalholloway.ac.uk/portal/en/persons/danielle-schreve(4d17049a-1f2c-4cf6-9c19-d9ad8b072b1e).html
Darparodd Ross Barnett, palaeontolegydd gyda Doethuriaeth mewn Sõoleg o Brifysgol Rhydychen, lawer o wybodaeth a mewnwelediad i’r materion hynny a godwyd gan ymchwil DNA diweddar. Mae’n arbenigo mewn chwilota, dadansoddi a dehongli DNA hynafol ond maes ei wybodaeth arbenigol yw geneteg a hanes esblygiad naturiol rhywogaeth, yn enwedig y rhai ysgithrog darfodedig. Mae ei gyfrol ddadlennol a hynod ddarllenadwy The Missing Lynx – The Past and Future of Britain’s Lost Mammals ar gael yma: https://uk.bookshop.org/books/the-missing-lynx-the-past-and-future-of-britain-s-lost-mammals/9781472957351
Yr hyn a heuodd y syniadau ar gyfer y prosiect hwn oedd dealltwriaeth heb ei ail John Blore o Fryn Alyn, ei ffawna hynafol a’i hinsawdd newidiol. Dros y blynyddoedd mae wedi parhau i ddarparu mewnwelediad gwerthfawr – mae ei angerdd a’i ymrwymiad i’r lle hwn yn ysbrydoliaeth.
Darparodd yr hwylusydd diwylliannol Robyn Tomos, Swyddog Celfyddydau Gweledol yr Eisteddfod Genedlaethol, y lens Gymreig ar gyfer y prosiect ynghyd ag ymroi oriau lawer yn saernïo ei drosiad i’r Gymraeg.
Dyfeisiodd y technegydd digidol Simon Beech y rhyngwyneb rhyngweithiol ar gyfer app Udfil, gan greu’r modd y mae’r prosesau a naratifau mwy agos-atoch-chi analog a safle-benodol yn gallu cyrraedd cynulleidfa dorfol.
Agorodd AHNE Bryniau Clwyd ei drws i’w dirwedd hardd ac ystyrlon, gan ymroi cyllid gwerthfawr drwy ei Chronfa Datblygu Cynaliadwy.
Darparodd Cyngor Celfyddydau Cymru y cyllid craidd ar gyfer y prosiect drwy ei Gronfa Gwytnwch mewn ymateb i’r pandemig C-19.
Dymuna Sean Harris gydnabod a diolch i bob un o’r uchod am eu cymorth a’u cefnogaeth – hebddynt hwy ni fyddai Udfil yn bodoli…
Yn ogystal, hoffai ddiolch i Lywodraeth Cymru am lunio’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a ddylai rhoi achos gobaith i ni.
‘Yr hyn a wna Cymru heddiw bydd y byd yn ei wneud yfory.’
Nikhil Seth, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol y Cenhedloedd Unedig.