
Crocuta crocuta
650,000 – 35,000 o flynyddoedd Cyn y Presennol
Torion papur Udfilod, dannedd udfil Pleistosenaidd a chofnod isotop ocsigen morol yn dangos newid tymheredd a chyfaint rhew global dros 800,000 o flynyddoedd.
Roedd udfil o’r enw Billy yn byw yn Exeter ‘Change – cartref parhaol Gilbert Pidcock ar y Strand yn Llundain – dyna i chi enw da a chofiadwy ar gyfer hiena.
Mae’r udfil yn ganolog i’r stori hon gan yn aml iawn y nhw oedd yn ymgartrefu yn yrogofâu, yn llusgo celain i’r cysgodion i’w gnoi a gadael olion dannedd ar yr esgyrn chwilfriw. Ac yna gwaredu’r ‘tomfeini’ gwynion – y carthion esgyrn – o’r pen arall.
Y daearegydd a’r paleontolegydd enwog y Parchedig Ddoethur William Buckland o Brifysgol Rhydychen oedd y cyntaf i sylweddoli yn y 1820au bod yr hyn yr oedd wedi’i ganfod ar lawr Ogof Kirkdale yn swydd Efrog yn debyg iawn i’r hyn a oedd yn dod allan o ben-ôl ei udfil caeth, ar ôl i hwnnw wledda ar esgyrn ceffyl. Ac felly, daeth i’r casgliad mai’r udfil – ac nid Y Dilyw amser maith yn ôl -achosodd i lawr yr ogof fod yn gyforiog ag esgyrn hynod, heb sôn am y peli carthion wedi’u ffosileiddio – neu’r album graecum i roi’r enw mwy gwyddonol.
Roedd Ogof Ffynnon Beuno, yng ngogledd Bryniau Clwyd ger Llanelwy yn ffau udfil. Mae’r cloddio yma, ac yn Ogof Cae Gwyn gerllaw, wedi ildio esgyrn llawer i rywogaeth gan gynnwys y bual, y carw, y rhinoseros gwlanog, y blaidd, y llew, y mamoth, yr arth, yr ychen hirgorn (hynafiad gwyllt darfodedig ein gwartheg dof ni), y ceffyl a’r udfil. Roedd yno lawer iawn o esgyrn gên udfil a llawer o esgyrn eraill ag arwyddion eu bod wedi cael eu cnoi ganddynt.
Mae’r esgyrndai hyn yn adrodd hanes cyfnodau hinsawdd cynnes ac oer a newidiai bob yn ail dros rychwant miloedd o flynyddoedd. Gydag amser, ymatebai’r rhywogaethau i’r dirwedd gyfnewidiol a amgylchynai’r ogofâu drwy addasu eu hunain er mwyn goroesi ynddi – drwy ei gadael (ac weithiau, dychwelyd nes ymlaen) neu ddiflannu’n gyfan gwbl. Ar wahanol adegau roedd y ffawna yn cynnwys Homo sapiens (sef ni) a Homo neanderthalensis (y Neanderthaliaid) hefyd – un o’r ychydig leoliadau yn Ewrop lle mae tystiolaeth o hyn.
O ystyried y graddau rydym ni wedi dathlu ein teyrnasiad dros y Ddaear a phopeth sy’n byw arni, hwyrach bod y syniad o fodolaeth rhywogaeth ddynol arall yn dipyn o her. Yn ôl pob golwg er mwyn dod i delerau â hyn rydym ni wedi creu’r darlun bod ein cefndryd Neanderthal yn ansoffistigedig a garw. Mae’n debyg bod hwn yn adlewyrchu ein synnwyr cynhenid o uwchraddoldeb. Er, mae gwaith ymchwil yn dangos yn gynyddol bod y Neanderthaliaid, fel ni, yn gwarchod eu tylwyth yn gariadus, yn creu offer, yn meddu ar strategaethau hela soffistigedig ac mae’n ymddangos yr oedd ganddynt gymelliadau creadigol yn union fel ni. Sut felly oeddynt yn israddol neu rywsut yn llai dynol? Yn enwedig gan fod eu hymennydd nhw yn fwy nag ein heiddo ni.
Hwyrach yr hyn sydd wrth wraidd y mater yw’r ffaith bod y Neanderthaliaid yn wahanol i ni mewn rhai ffyrdd. Mae tuedd gennym ni i ddrwgdybio’r gwahanol ac, yn wir, i lynu wrth anwireddau unwaith y maent wedi cael eu sefydlu.
Er enghraifft, yn wahanol i’r gred eang, mae’r udfil mewn gwirionedd yn hela o leiaf cymaint â’r llew. Ac mae llewod yn chwilota am garcasau (at ei gilydd rhywbeth na fyddwn ni’n ei ystyried yn weithgaredd brenhinol iawn).
Llwyddodd yr udfil i oroesi yn hirach o lawer yn y dirwedd hon nag y mae’n ymddangos y byddwn ni’r sapiens. Maent yn glyfar a pharod i newid ac yn meddu ar drefn gymdeithasol gymhleth (yn aml mae eu sŵn ‘chwerthin’ yn fynegiant o dyndra rhwng teuluoedd). Yn union fel ni. Yn wir mae’n ymddangos bod y persona tywyll rydym ni’n ei briodoli i’r udfil yn ddisgrifiad llawer mwy addas i rai bodau dynol (amlwg iawn) na’r Crocuta crocuta ei hunan.
Mae gwaith ymchwil y Doethur Angharad Jones – lle mae hi’n archwilio dannedd udfil o ogofâu ar draws Cymru a Lloegr (gan gynnwys Ffynnon Beuno), gan groesgyfeirio maint a dyddiad – yn edrych ar y gallu i addasu hwn. Mae’n ystyried sut dros gannoedd ar filoedd o flynyddoedd y mae’r udfil wedi ymateb i newid hinsawdd, gan arwain at fod y rhywogaeth fwyaf llwyddiannus a gwydn ag y mae.