
Mammuthus primigenius
250,000 – 12,800 o flynyddoedd Cyn y Presennol
Torion papur mamoth, dant mamoth a dilyniant DNA
Tybed oes yna greadur arall sy’n ymgorffori’r Oes Iâ yn fwy na’r mamoth blewog? Mae’r ffaith bod 20th Century Fox wedi dewis cynhyrchu ffilmiau yn dwyn yr enw ‘Ice Age’ sy’n troi o gwmpas y rhywogaeth arwrol hon, yn awgrymu nad oes anifail tebyg.
Ym Mryniau Clwyd mae esgyrn hir y mamoth wedi’u canfod yn ogofâu Ffynnon Beuno a Chae Gwyn ill dwy. Ac mae sawl un, fel mae disgwyl, wedi cael eu cnoi gan udfilod. Mae’r esgyrn hyn wedi darparu dyddiadau radio-carbon (i gymryd a rhoi) 18,000 o flynyddoedd Cyn y Presennol. 27,860 CP a 41,800 CP. Gan fod y mamoth, a enwyd yn briodol fel ‘y gaer sy’n gwrthsefyll yr oerfel’, wedi’i addasu mor dda er mwyn cadw gwres, rydym ni’n gwybod ei bod hi’n oer iawn yn yr amseroedd hyn (ond nid yn eira i gyd o reidrwydd, ond yn fwy o laswelltir rhewsych).
Mae rhannau o famothiaid wedi’u rhewi yn cael eu canfod yn aml yn y twndra rhewedig (am y tro) yn Siberia – ysgithrau, blew hir – ac ar adegau ambell gorff cyfan. Mae hyn yn golygu bod cryn botensial i dynnu DNA, sy’n esbonio llawer iawn i ni ynglŷn â’r addasiadau rhyfeddol a alluogodd i’r mamoth oroesi mewn amgylchedd tra heriol. Yn ogystal, mae’n golygu, mewn sefyllfa debyg i eiddo’r ffilm ‘Jurassic Park’, bod y syniad o ‘atgyfodi’’r rhywogaeth wedi dod i’r amlwg – i sŵn dadlau mawr.
Mae’r syniad o gael gweld mamoth go iawn yn fyw yn ddeniadol iawn ac, o ganlyniad, â photensial o wneud arian sylweddol. Yn wir, mae’r fath syniad yn adlais o filodfa Gilbert Pidcock o’r 18fed ganrif – menter hollol fasnachol wedi’i seilio ar apêl bodau ‘chwedlonol’ yn dod yn real o fewn byd ffisegol a oedd eto i ddyfeisio’r teledu, David Attenborough heb sôn o ran hynny, am y syniad o gadwraeth.
Er hwyrach, y bydd yn bosib cyn hir, mae cwestiynau’n codi ynghylch moeseg atgyfodiad wedi’i yrru gan fasnach. Mae rhywun yn meddwl am gymeriad Walt Disney Dumbo ar ben ei hun yng nghylch y syrcas a’r dorf yn bloeddio dirmyg, ac yntau’n unig mewn ‘freak show’…
Oni fyddai yna fanteision ecolegol? Mae wedi cael ei awgrymu bod gwrteithio helaeth a chlirio’r dirwedd gan fudo gyrroedd o famothiaid wedi bod o fudd i systemau ecolegol yr Oes Iâ, gyda’r rhew parhaol yn cael ei wasgu dan eu traed, gan roi’r carbon a fyddai fel arall wedi dianc i’r atmosffer dan glo.
Mae arbrofion ar y gweill yn Siberia yn ymwneud â gyrru tanciau dros y twndra er mwyn efelychu hynt y creaduriaid mawr. Mewn byd sy’n cynhesu a thirweddau wedi’u dihysbyddu o faeth tybed a fyddai mamoth atgyfodedig yn gallu cynnig ‘gwasanaethau amgylcheddol’?
Ond os, fel yn yr achos hwn, rydym ni’n straffaglu i gydfyw gyda’r megaffawna sydd wedi llwyddo i ddal eu tir yn wyneb ein twf ni, pa obaith sydd yna i unrhyw ailgyflwyniad drwy beiriannu genynnol?
Mae’r dadlau’n rhygnu ymlaen, fel murmur is-sonig eliffantod ar y safana yn Affrica – mae gan lawer ohonynt ysgithrau byrrach bellach – ymateb esblygol i hela anghyfreithlon.