
Lynx lynx
400,000 – 11,500 o flynyddoedd Cyn y Presennol
Torion papur lyncs, asgwrn gên lyncs a gloddiwyd gan John Blore o Ogof y Lyncs a dilyniant DNA lyncs
Ychydig dros dafliad carreg o’r man lle rydych chi’n sefyll mae ogof bwysig arall ym Mryniau Clwyd – Ogof y Lyncs ar Fryn Alyn. Yma dros gyfnod o 50 mlynedd o gloddio, a ddechreuwyd yn 1962, yn ofalus datguddiodd y chwilotwr ogofâu a’r naturiaethwr John Blore weddillion ceirw coch, ceirw Llychlyn, cawrgeirw, lemingod, ych hirgorn, ysgyfarnogod mynydd a mwy – a’r cyfan yn adrodd stori o newid hinsawdd sydyn ar derfyn y cyfnod oer diwethaf bron i 11,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn ogystal, daeth o hyd i 41 asgwrn lyncs, gan gynnwys mandibl a gên isaf gyda dant llygad amlwg yn datgan ‘ysglyfaethwr’ neu ‘reibiwr’. Mae’r dilyniant o haenau archeolegol yn awgrymu bod y gath osgeiddig hon â’i chlustiau cudynnog yn hela yn y bryniau hyn tua 3,000 o flynyddoedd yn ôl.
Mae diwylliannau yn esblygu ffyrdd amrywiol o roi trefn ar y byd ac yn enwi pethau er mwyn eu diffinio a’u cofio. Mae gwyddoniaeth y Gorllewin wedi’i seilio ar reolau dosbarthu Linneaidd (a sefydlwyd gan y botanegydd, sõolegydd a’r athronydd Carl Linnaeus tua 1735). Yng nghyd-destun mamaliaid mae hyn wedi seilio ar yr hyn a oedd yn weladwy yng nghyfnod Linnaeus – esgyrn, organau, crwyn ac yn y blaen. Yn sgil gwaith ymchwil micro newydd yn ymwneud â DNA, o fewn y canon diwylliannol penodol hwn mae’r lyncs yn adrodd hanes dilyniant gwyddonol sydd, fel yn achos cynifer o rywogaethau, yn herio casgliadau a pherthnasoedd sefydledig.
Yn ôl y meini prawf Linneaidd mynnwyd mai dim ond isrywogaeth o’n Lyncs gogleddol ni (a ddaeth John Blore o hyd iddo) oedd y Lyncs Iberaidd. Ond mae gwahaniaeth genynnol eglur i’w weld wrth archwilio’r DNA, sy’n dangos eu bod mewn gwirionedd yn rhywogaethau ar wahân. Felly, yng ngolwg gwyddoniaeth y Gorllewin, mae’r hwn yw’r lyncs wedi newid. Nid bod y wyddoniaeth yn wallus neu’n amhendant ond dyma ddrych o realiti a bod y stori yn symud yn barhaus wrth i brosesau newydd arwain at ddarganfyddiadau sy’n golygu bod rhaid newid y gwirionedd. Yn union fel o’n hamgylch mae’r bydysawd i gyd mewn stad o newid parhaus a phob dim yn symud, er ar gyflymderau gwahanol, ac yn newid ei berthynas â phopeth arall.
Yng nghyd-destun cymdeithas y 21fed ganrif mae lyncs John Blore yn dystiolaeth bwysig yn hanes y diddordebau a’r gweledigaethau croes hynny sy’n parhau i ddirgrynu drwy dirweddau a diwylliannau’r Gymru wledig.
Os ydych chi’n ceisio ailgyflwyno rhywogaeth, y cam cyntaf yw profi ei bod ar un adeg yn frodorol. Tra bod enwau lleoedd yn gallu cyfrannu tystiolaeth, mae esiamplau fel y rhai o Ogof y Lyncs yn profi’n ddiymwad bod y gath hon yn perthyn yma ac yn rhan o’n ffawna brodorol. Bydd rhai yn dweud bod ganddi’r un hawl i fod yma â ninnau. Bydd ffermwyr ar y cyfan yn anghytuno gan ddadlau bod y lyncs yn bygwth eu da byw; ac nid yn unig bod magu defaid yn rhan annatod o reoli’r tir ond yn fodd i warchod iaith a diwylliant hefyd, a bod rhaid rhoi blaenoriaeth iddo. Yna, mae cryn gynnwrf yn codi a threfn y frwydr yn cael ei lunio a charfannau croes yn colli golwg o’r hyn sydd gyda nhw’n gyffredin.
Mae gan ysglyfaethwyr ddylanwad greddfol ar ein hemosiynau. O bosib oherwydd eu bod(neu oeddynt) yn cystadlu’n uniongyrchol â ni, ac weithiau, yn ein hela (ac yn ein bwyta). Rydym ni wedi esblygu i’w hofni nhw. Fodd bynnag, nid yw’r lyncs yn fygythiad i fodau dynol (yn wahanol i wartheg sydd yn lladd pobl ar adegau) ac mae’r bygythiad i dda byw yn newidiol. Yn Norwy maent yn cipio defaid lle mae preiddiau’n cael eu rhoi i bori yn y fforestydd, ond y maent hefyd yn lleihau niferoedd y ceirw ac o ganlyniad yn cael effaith llesol ar goed ifainc. Ar ynys Mull yn yr Alban lle mae gwylwyr adar ar drywydd yr eryr tinwyn enfawr – yr heliwr arswydus hwnnw o faint drws ‘sgubor – ailgyfeiriwyd cyfran o’r incwm ymwelwyr sy’n deillio ohonynt i’r ffermwyr er mwyn eu digolledu am golli ambell oenig, a oedd hwyrach yn gelain eisoes erbyn i’r eryrod lanio arno…
Nid yw’n anodd gweld dyfodol lle mae’r fath daliadau’n mynd yn fwy na’r enillion hynny a cheir am gynhyrchu bwyd – greal sanctaidd y ffarmwr ers chwyldro amaethyddol y cyfnod Neolithig. Hwyrach ein bod ni bellach yn wynebu shifft fawr arall debyg i’r hyn ddaeth i ran ein hynafiaid o helwyr a chrynhowyr 7,000 o flynyddoedd yn ôl.