Llew

Llew Ogof
Panthera spelaea
Torion papur llew ogof, asgwrn gên isaf llew ogof Pleistosenaidd a DNA a ddilyniannodwyd gan yr Athro Ross Barnett

Mae yna grair paleontologaidd sy’n ddigon i yrru iasau ar hyd yr asgwrn cefn yn ymaros ymchwilydd brwd yn ddwfn ym mherfeddion storfa Amgueddfa Byd Natur, Llundain. Yma, wedi’i ganfod o bridd Ogof Ffynnon Beuno mae casgliad bychan o weddillion marwol … sibrydwch yr enw … Llew. Yn wir, 40,000 o flynyddoedd yn ôl roedd Panthera spelaea yn prowlan Bryniau Clwyd.

Mae gwaith dadansoddi a wnaed o DNA hynafol gan yr ymchwilydd y Doethur Ross Barnett ac eraill yn awgrymu bod llewod ogof yn perthyn yn agos i’r llew modern Panthera leo.Dyma rywogaeth anhygoel o lwyddiannus – mae ei hesgyrn a’i dannedd wedi’u canfod mewn mannau ar draws Cymru a Lloegr – roeddynt i’w cael o dde Sbaen i’r Yukon a Siberia. Ond aethant i ddifancoll yn sydyn oddeutu 14,000 o flynyddoedd yn ôl.

Mae’r ffaith eu bod wedi’u darlunio mor fyw mewn cynifer o baentiadau a cherfiadau yn tystio i rym nodweddiadol oesol y cathod mawr, sydd hwyrach yn deillio o’r ffaith eu bod yn cystadlu â ni dros fantell y ‘prif ysglyfaethwr’. Mae’r gystadleuaeth yn amlwg iawn heddiwlle mae’r brodorion yn mynd wyneb yn wyneb â llewod modern y Calahari, gyda llinell o ddynion yn camu’n eofn tuag at lew ar ei brae, gyda’r bwriad o’i yrru i ffwrdd, a drwy hynny’n ennill bri a thameidiau llawn maeth o’r carcas.

A hwythau’n helwyr ymlid deallus, mae llewod yn unigryw ymhlith cathod yn y modd y maent yn gallu cydweithio fel tîm trefnus iawn. Mae hwn rhywsut yn golygu bod eu grym corfforol naturiol hyd yn oed yn fwy brawychus – ac mae’r arswyd amheuthun mae’n codi ynom ni wrth wraidd eu cyfaredd.

Yn ei gyfrol arloesol ‘British Pleistocene Mammalia’, ymhlith y casgliad mwyaf ysblennydd o lithograffau yn portreadu esgyrn megaffawna coll yr Oes Iâ – gan gynnwys Panthera spelaea – ysgrifennodd Syr William Boyd Dawkins ‘Man cannot live at peace with the great carnivores. In direct proportion to his increase in number they decrease, being driven from the field in the struggle for life’.

A dyna fel y mae hi heddiw; mae niferoedd y llewod yn Affrica yn parhau i leihau’n arw, i’r fath graddau mae’n bosib y byddwn ni’n eu colli’n gyfan gwbl o fewn ychydig ddegawdau. Yma, mae ffermwyr gwartheg – teuluoedd, peidied ag anghofio – a’u tiroedd wedi’u crebachu gan sychder, yn gosod abwyd gwenwynig i ladd y llewod y maent yn cystadlu fwyfwy am ofod â nhw. Fel yn achos y lyncs, mae eco-dwristiaeth wedi cael ei gynnig yn ateb ond yr hyn sy’n mynd yn groes i hwn yw ein hofn greddfol o’r helwyr – yr union beth a fydd yn eu hanfon i ddifancoll.

Dro ar ôl tro, dangoswyd bod helwyr y rhan annatod o systemau ecolegol iach a fyddai hebddynt yn dymchwel yn y pen draw – i’n colled ni.

Sut mae canfod gofod iddynt?

%d bloggers like this: