Ceffyl

Ceffyl Gwyllt
Equus ferus
600,000 – 11,500 o flynyddoedd Cyn y Presennol
Torion papur ceffyl gwyllt, dannedd ceffyl Pleistosenaidd a dilyniant DNA ceffyl gwyllt

Mae ystyried ein perthynas newidiol ni â’r ceffyl dros y milenia yn golygu myfyrio ynglŷn â’n stori ni a’r newidiadau yn ein canfyddiad ni o’r byd mwy-na-dynol fel bo’i gilydd. Mae hon yn stori hir – lle rydym ni wedi symud o fod yn gyfranogwyr sylwgar i fynnu mai ni yw’r ‘meistri’ – stori sydd wedi’i darlunio’n fyw gan weddillion sy’n cyfuno’r sŵolegol a’r archeolegol, a chelfyddyd a defodau sydd ynghlwm â’r ceffyl a’i choelion.

Er mwyn cael syniad o sut yr oedd ein hynafiad o helwyr a chrynhowyr yn dirnad y ceffyl, rydym ni’n gallu dod ar draws mannau lladd fel Solutré, yn ne Ffrainc, a’r berthynas hanesyddol fwy cyfarwydd rhwng brodorion gwastatiroedd Gogledd America a’r bual. Felly, dyma ffynhonnell hanfodol ar gyfer cynhaliaeth, strategaethau hela’n seiliedig ar yr yrfa, a’r pen neu’r benglog fel symbol o rym bywyd yr anifail neu’r anima. Mae temtasiwn gweld traddodiad Y Fari Lwyd ac yn wir, ceffylau pantomeim a hobi’r traddodiad Seisnig fel olion o gwlt y pen.

Yna, cawn fwlch o filoedd o flynyddoedd cyn symud ymlaen i ddiwedd y cyfnod cynhanes a’r Oesoedd Efydd a Haearn pan fo’r contract yn newid a’r ceffyl, ddim bellach yn brae mawr ei barch, ond yn was. Pan fo hierarchaethau sy’n seiliedig ar berchnogaeth tir yn cael eu cadarnhau – heuwyd y rhain yn gynt adeg chwyldro amaethyddol y cyfnod Neolithig. Yn hyn o beth mae’r ceffyl yn tyfu’n symbol o gyfoeth, grym a dofi’r gwyllt. Mae brenhines bresennol Lloegr yn feistres benigamp ar geffylau ac felly hefyd y teuluoedd brenhinol sy’n meddu ar gyfoeth olew taleithiau’r Gwlff.

Gyda chelfyddyd ddau-ddimensiwn, rydym ni wedi symud o’r merlod byrdew, â myngau fel brwsh a geir ym mhaentiadau’r ogofâu i luniau’r llinachau hynny wedi’u rheoli’n dynn, yn y darluniadau ffotorealaidd rheiny, wedi’u cynllunio’n ofalus, o ‘helwyr’ gan y paentiwr George Stubbs a’i gyfoeswyr – darluniadau meistrolgar sy’n symbolau statws yn eu hunain.

Mewn tri dimensiwn, mae’r ceffyl yn cyfleu dyfnder mawr ein cysylltiad ag Ewrop, yn y modd y mae edefyn eglur yn cysylltu cerfiadau Palaeolithig o geffylau a ganfuwyd yn ardal y Pyreneau â gwaith celf cludadwy hynaf Cymru – sef asgwrn gên ceffyl wedi’i ricio’n ofalus a gafwyd yn Ogof Kendrick ym Mhen-y-Gogarth, Llandudno (mae’n oddeutu 11,000 o flynyddoedd oed a bellach wedi’i arddangos yn yr Amgueddfa Brydeinig). Wrth i’r rhew gilio, ac wrth fudo tua’r gogledd daeth ein hynafiaid â’i diwylliant addoli ceffylau – a hela -gyda nhw.

Mae Syr William Boyd Dawkins yn cofnodi 545 o ddannedd ac esgyrn ceffyl o Ffynnon Beuno ym Mryniau Clwyd. O’r rhain, mae nifer yn dangos arwyddion o fod wedi cael eu cnoi gan udfilod o leiaf 20,000 o flynyddoedd cyn y crëwyd y darn celf o Ogof Kendrick. Bydd y marciau cnoi, sy’n arwyddion clir o’r frwydr greulon dros oroesi, yn parhau’n hirach mae’n debyg nag olion ein hymwneud cymdeithasol a gwleidyddol ni. Yn ôl ym myd didostur yr Uwch Balaeolithig Ddiweddar mae’n debyg yr oedd genau dinistriol yr udfil – grym brathu mwyaf byd natur – yn tanseilio unrhyw synnwyr o feistrolaeth a oedd ein hynafiaid yn yr Oes Iâ o bosib yn dechrau ennill.

%d bloggers like this: