
Alces alces
300,000 – 3,925 o flynyddoedd Cyn y Presennol
Torion papur bwch, banw ac elain cawrgarw, esgyrn botgynau cawrgarw Mesolithig a graff yn dangos codiadau a gostyngiadau tymheredd dros gyfnod o 50,000 o flynyddoedd.
Yn gynta’, beth yw cawrgarw? Mae’r enw’n ddigon i ddrysu dyn…
Yng ngogledd America, mws yw’r creadur sy’n dwyn yr enw Linneaidd Alces alces, tra yn Ewrop ac Asia cawrgarw yw’r un creadur. Felly, gan ein bod ni’n eistedd yma yng ngogledd Cymru lle rydym ni (o safbwynt global) yn rhan o’r cyfandir Ewrasiaidd, gwnawn ni ei alw’n gawrgarw.
Mae’r cawrgarw yn nhermau esiamplau cynhanesyddol o Ynysoedd Prydain yn brin iawn. Ond yma ym Mryniau Clwyd, o Ogof y Lyncs mae gyda ni ffalancs – neu asgwrn bawd – ac mae safle hwn yn yr haenau archeolegol o bridd yr ogof yn awgrymu ei fod tua 12,000 flwydd oed. Roedd y tymheredd yn pendilio’r adeg honno. Mileniwm yn gynt roedd pethau wedi cynhesu’n sydyn iawn – rhyw saith gradd o fewn cwta dwy ganrif. Ond erbyn y cyfnod pan oedd ein creadur ni yn pori dail a llysiau dŵr roedd pethau’n oeri eto. Yna, dyma nhw’n cynhesu, a pharhau i gynhesu. Yn gyffredinol nid y tymereddau cymharol sefydlog rydym ni wedi dod i’w cymryd yn ganiataol dros yr ychydig filenia diwethaf yw’r norm.
Tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl, roedd llawer o ddŵr wedi’i gloi mewn llenni iâ ac felly roedd lefel y môr yn sylweddol is nag ydyw heddiw. O ganlyniad, roedd Prydain yn parhau i fod yn glwm wrth Ewrop. Lle mae Môr y Gogledd heddiw roedd tirwedd o afonydd a choedlannau o’r enw Doggerland – a dyma ble’r oedd y cawrgarw yn crwydro. O wely’r môr, mae pysgotwyr wedi rhwydo ei esgyrn – creiriau tir coll dan y tonnau sy’n datgan bod rhychwant amser daearegol ein hynys mewn gwirionedd ar wib.
Wrth i’r tymheredd godi dros y ddau filenia nesaf, gwnaeth lefelau’r môr yr un fath, gan orfodi pobol i adael Doggerland. Felly, mae’n bur debyg bod rhai ohonom ni yn ddisgynyddion i’r ffoaduriaid newid hinsawdd hyn.
Yn 6200 Cyn y Cyfnod Cyffredin rhuthrodd tswnami ar draws Môr y Gogledd – yn wal o ddŵr dros 25 medr o uchder yn teithio oddeutu 80 milltir yr awr, gan ddinistrio aneddfeydd ar hyd y glannau a hwyrach troi mwy o’n hynafiaid glan môr yn ffoaduriaid.
Heddiw, wrth i’r tymheredd godi eto fyth a rhew Cylch yr Arctig gilio, mae disgynyddion cawrgeirw Doggerland yn symud gyda’r fforest foreal yn raddol i’r gogledd. Mae hwn yn cael effaith diwylliannol diddorol ar y Sámi, brodorion gogledd Llychlyn. Meddai’r bugailceirw Sámi Nils Islak Eira, “Rwy’n gwybod tua 1,200 enw am garw. Rydym ni’n eu dosbarthu wrth oedran, rhyw, lliw a chyrn. Ond dim ond un enw rwy’n ei wybod am gawrgarw – Sarvva. Pan oeddwn i’n blentyn roedd yn greadur chwedlonol”.
I’r Sámi, Sarvva yw’r enw a roddwyd i gawrgarw y cosmos sy’n rhan o glwstwr sêr Yr Helfa Fawr yn ffurfafen y nos. Bellach, gan fod yr hinsawdd yn cynhesu, mae Cawrgarw’r Ffurfafen wedi glanio ac yn cerdded y fforestydd – chwedl sydd wedi dod yn fyw.
Mae’r Sámi’n mynnu pan fydd yr helwyr yn dal Sarvva bydd y byd yn dod i ben.