
Homotherium latidens
650,000 – ? o flynyddoedd Cyn y Presennol
Torion papur cath ysgithrau-pengam, asgwrn gên isaf a ganfuwyd ym Môr y Gogledd a dilyniant DNA.
Nid oes tystiolaeth ffisegol bod y gath ysgithrau-pengam wedi bod yn aflonyddu Bryniau Clwyd – nac wedi byw yng Nghymru chwaith. Ond yn ôl yr ymadrodd nid yw absenoldeb tystiolaeth yn dystiolaeth o absenoldeb. Mae ei ffosiliau’n hynod o brin, er bod rhai dannedd ac esgyrn wedi cael eu canfod yn Dove Holes, swydd Derby, llai na 100 milltir i ffwrdd. Mae dadansoddiad DNA yn dweud bod rhai rhywogaethau, fel y Lyncs Iberaidd, yn gallu parhau i fodoli ar lefelau poblogaeth isel iawn, gan eu gwneud hwy a’u gweddillion yn anodd iawni’w canfod. Ac mae gwaith ymchwil gan Ross Barnett yn dangos bod yr ysgithrau-pengam Homotherium a arferai crwydro Ewrop bron yr un ffunud â’r esiamplau o Ogledd America.
Mae hyn i gyd yn rhoi trwydded i ni ddychmygu bod ein Diego ni’n hunain (o ffilmiau Ice Age) wedi sleifio drwy’r bryniau hyn gan ddangos ei ddannedd – cyllyll hir, main ag ymylon miniog ac arfau cerfio brawychus oedd yn gallu clwyfo ac achosi marwolaeth drwy dynnugwaed.
Felly, mi wnawn ni ychwanegu’r bwystfil mynyddig hwn i’n Milodfa Rithiol – yn rhannol gan ei fod yn anhygoel ac yn ogystal, oherwydd yr hyn y mae’n dweud ynglŷn â gwirionedd gwyddonol a’r dull o enwi pethau.
Pan ganfuwyd y dannedd cyntaf yn yr Eidal yn gynnar yn y 18fed ganrif, roedd pobol yn credu bod y dannedd eithafol yn perthyn i’r arth – dyna oedd yn gwneud synnwyr yn ôl yr hyn a oedd yn hysbys ar y pryd – ac o ganlyniad enwyd y rhywogaeth newydd yn Ursus cultridens. Ers hynny, yn dilyn nifer fach o ganfyddiadau pellach, mae’r dosbarthiad wedi newid sawl tro gyda’r arth yn troi’n gath … fwy neu lai. Daeth Ursus cultridens yn Machairodus cultridens (o’r cyfnod Plïosenaidd) a daeth Machairodus latidens ) i fodolaeth (o’r Pleistosen) wrth i fath mwy diweddar gael ei enwi. Yna, dyma ollwng Machairodus a daeth yr un anifail yn Homotherium.
Felly, yn 2020 (am y tro) mae gyda ni Homotherium crenatidens a Homotherium latidens. Tybir bod y ddau yn eistedd ar y Goeden Fywyd rhywle rhwng y canghennau lle gorwedd y cathod a’r udfilod y naill ar ôl y llall. Ond oes digon o wahaniaeth rhwng y crenatidens a’r latidens i gefnogi’u statws fel rhywogaethau ar wahân yw’r cwestiwn a thestun dadl – canlyniad cymhlethdod aruthrol esblygiad – nid yw pethau’n hollol ddu a gwyn bob amser, yn enwedig pan fo cyn lleied o dystiolaeth i’w dadansoddi.
Mae’r pwynt pan aeth Homotherium latidens i ddifancoll wedi bod yn destun cryn ddadlau hefyd. Tybir bod crenatidens fel rhywogaeth wedi sefyll ar led ar y Plïosen a’r Pleistosen – gan ddiflannu tua 2¼ filiwn o flynyddoedd yn ôl. Mae latidens yn cael ei ystyried fel creadur y Pleistosen, a ddaeth i ben gyda’r Oes Iâ ddiwethaf 11,700 o flynyddoedd yn ôl. Ond pryd yn union ar y rhychwant amser ddaeth ei ddiwedd? Wel, mae’r ysgolheigion wedi bod ynmynd yn wirioneddol benben â’i gilydd dros y cwestiwn blinderus hwn.
Daeth heddwch yn y pen draw pan gytunwyd bod yr Homotherium diwethaf wedi darfod tua 300,000 o flynyddoedd yn ôl. Ond yna, yn 2020 dyma long bysgota yn bwrw’i rhwyd enfawr a chrafu gwaelod Môr y Gogledd a thynnu asgwrn gên ar ffurf amlwg i’r wyneb – o eiddo Homotherium latidens. Serch ei fod wedi gorwedd ar wely’r môr am filenia roedd ei gyflwr yn ddigon da er mwyn i un o’r dannedd gael ei brofi ar gyfer dyddio radio-carbon. Yn annisgwyl braidd, gwnaeth hwn gynnig dyddiad o 32,000 o flynyddoedd CP. Felly, gydag un wich o’r dril a thro yn y peiriant-sy’n-mynd-ping newidiwyd stori’r Homotherium o dros chwarter miliwn o flynyddoedd. Ble oedd y creaduriaid dyrys hyn wedi bod yn cuddio cyhyd?
Dyma’r fath o stori sy’n ennyn yr athronwyr tŷ tafarn (a newyddiadurwyr) sy’n lladd ar natur amhendant gwyddonwyr i rolio’u llygaid. “Maen nhw’n methu dod i benderfyniad!” maent yn bloeddio o’r bar, “dydyn nhw ddim yn gwybod dim byd!”.
Ond, mewn gwirionedd, mae’n cynrychioli realiti a gwyleidd-dra gwyddoniaeth gyfoes. Gyda chanfyddiadau newydd mae’n anorfod y bydd y stori’n newid – a dylwn ni gydnabod a chymeradwyo hynny yn hytrach na gweiddi dirmyg. Mae’r ymadrodd ‘y gwirionedd am y tro’ yn un da.
Mae’r drefn o fynnu adborth gan gymheiriaid wrth geisio sefydlu gwirionedd sydd wedi’i dderbyn yn eang yn dda hefyd – a dyna yw sail gwyddoniaeth fyd-eang. Mae cwestiwn neu ddamcaniaeth yn cael ei osod, gwaith ymchwil perthnasol yn digwydd ac yn hollbwysig, mae’r canfyddiadau sy’n deillio o hyn yn cael eu herio gan grŵp o bobol sy’n meddu ar wybodaeth a phrofiad perthnasol helaeth. Er mwyn sicrhau bod hwn yn llwyddo, rhaid hepgor yr ego ac ateb cwestiynau wrth iddynt godi – y sinigiaid mwyaf yw’r gwyddonwyr eu hunain, mae’n rhaid.
Yn 2013, daeth astudiaeth, wedi’i seilio ar yr un broses drwyadl, i’r casgliad bod 4,000 o bapurau gwyddonol yn mynegi barn ynglŷn ag achos y cynhesu hinsawdd diweddar. Roedd 97% yn gytûn, nid yn unig bod y cynhesu byd-eang yn digwydd ond mai ni oedd yn ei achosi – consensws ar raddfa anorchfygol.
Mae gwyddoniaeth Orllewinol yn cynnig system dda. Nid yw’n anffaeledig – ac nid yw’n sefydlu’r gwir i gyd. Nid yw’n gallu cynnig yr atebion i gyd. Ond o’i arfer gyda hygrededd a gwyleidd-dra, hwyrach mai dyma’r ffordd fwyaf effeithiol rydym ni wedi’i chreu, lle mae dynoliaeth yn gallu dod at ei gilydd a chyfathrebu fel un, wrth chwilio am ddatrysiadau i’r heriau sylweddol iawn yr ydym ni yn eu hwynebu heddiw.