
Rangifer tarandus
450,000 – 11,000 o flynyddoedd Cyn y Presennol
Torion papur bwch a banw carw Llychlyn, cerfiad oddi ar ifori mamoth Palaeolithig 17,000 blwydd oed (The Swimming Reindeer o gasgliad yr Amgueddfa Brydeinig) a graff yn dangos codiadau a gostyngiadau tymheredd dros gyfnod o 50,000 o flynyddoedd.
Tua 17,000 o flynyddoedd yn ôl, cafodd rywun yr awydd creadigol – neu hwyrach cafodd gomisiwn gan ei lwyth neu rywun o ddylanwad – i gerfio darlun o fwch ac ewig carw Llychlyn. I bobl yr Uwch Balaeolithig Ddiweddar roedd ceirw Llychlyn yn ffynhonnell hanfodol o fwyd, dillad a deunydd ar gyfer creu offer. Roedd goroesi yn dibynnu ar ddealltwriaeth drylwyr o ymddygiad a mudo blynyddol y ceirw. Does dim syndod felly bod crëwr y darn yn ddigon cyfarwydd gyda’r amrywiadau tymhorol yng nghot y creadur i grafu marciau penodol iawn er mwyn cyfleu’r hydref ac felly’r cyfnod rhidio. Hwyrach bod y darn yn galw ar amser cylchol, parhad a ffrwythlondeb y llwyth a’r creadur yr oedd yn dibynnu arno i oroesi.
Ni fyddwn yn gwybod os oedd gan ‘Swimming Reindeer’ (fel y mae wedi cael ei labeli yn yr Amgueddfa Brydeinig) ddiben penodol neu a oedd yn cynnig mynegiant unigolyn o’i ffordd o weld y byd – fel cynifer o’r ffigurynnau hardd wedi’u cerfio’n fwy diweddar o ifori walrws gan helwyr caribŵ yr Inuit. Fodd bynnag, ni chafodd y gwaith celf arbennig hwn, wedi’i ddewinio allan o ddarn o ifori mamoth ei ddarganfod yn y Cylch Arctig ond mewn lloches craig yn ne Ffrainc.
Y dyddiau hyn rydym ni’n ystyried ceirw Llychlyn (neu’r caribŵ) fel anifeiliaid yr Arctig – ac yn wir, fel y mamoth maent wedi cryn esblygu ar gyfer bywyd mewn hinsawdd oer. Ymhlith addasiadau eraill, mae ganddynt got o flew gwag, gyda phob blewyn yn creu poced o awyr cynnes, a ffwr ar waelod eu carnau gaflog i sicrhau gafael a’u harbed rhag suddo i’r eira.
Felly, erbyn 17,000 o flynyddoedd yn ôl, roedd hi’n llawer oerach yn ne Ffrainc nag ydi hi heddiw. Ac yn fwy diweddar, mae’n rhaid ei bod hi’n fwy oer o dipyn ym Mryniau Clwyd gan ein bod wedi canfod esgyrn carw Llychlyn yn Ogof y Lyncs sydd wedi dangos dyddiadau radio carbon o ychydig dros 11,000 CP.
Fel yn achos yr ysgyfarnog fynydd a’r leming, mae presenoldeb – neu absenoldeb – esgyrn carw Llychlyn yn cyfrannu at stori sy’n parhau i ddatgelu hanes newid hinsawdd, sut mae rhywogaethau’n ymdopi â hwnnw, ac o ganlyniad, sut mae eu cwmpasau yn crebachu a lledu. Yn hyn o beth, mae gwaith ymchwilwyr fel Danielle Schreve ac Angharad Jones yn rhan o broses barhaus o fewn rhwydwaith byd-eang, sydd drwy adolygu trwyadl gan eu cymheiriaid yn holi cwestiynau deallus ac anodd i’w hunan.
Drwy’r gweithrediad hwn – o wyddoniaeth – mae patrymau’n dod yn glir a chydsyniadau’n ffurfio. Gan fod hyn oll yn rhoi golwg ar sut y bydd tueddiadau’r dyfodol yn ffurfio, mae fel pe tai bod esgyrn yr anifeiliaid sydd wrth wraidd y gwaith ymchwil yn dod yn ‘oraclau’; dyfeisiau o’r gorffennol pell sy’n cynnig modd o syllu i’r dyfodol. Hwyrach bod yna gyfochr dymunol os annhebygol yn y modd y mae helwyr yn yr Arctig, o’r gorffennol a’r presennol,yn defnyddio esgyrn palfais y caribŵ yn fodd o ganfod lleoliad eu prae. Er efallai, o fewn ffyrdd diwylliannol gwahanol o feddwl, mae esgyrn ceirw Llychlyn wastad wedi’n cynorthwyo ni i ganfod llwybrau i oroesi.
Maent hefyd yn dangos lleoliadau ‘noddfeydd’ y gorffennol a’r presennol; llochesau diogel ar gyfer creaduriaid ag iddynt addasiadau penodol fel y mae’r Arctig bellach i rywogaethau hinsawdd oer – am ychydig amser eto beth bynnag. Ble tybed fydd ein noddfeydd ninnau yn y dyfodol wrth i’r tymheredd godi i’r entrychion, wrth i’r rhew gilio a’r moroedd godi, ac wrth i’r eangdiroedd grebachu a hinsawdd y Ddaear fynd yn fwyfwy didostur?