
Megaloceros giganteus
400,000 – 12,500 o flynyddoedd Cyn y Presennol
Torion papur carw anferth, asgwrn gên isaf ac esgyrn coes carw anferth Pleistosenaidd, DNA carw anferth a ddilyniannodwyd gan yr Athro Ceridwen Edwards, Prifysgol Huddersfield
Mae’n ymddangos bod enwi ceirw mawr iawn yn achosi pob math o ddryswch. Nid yw’r carw anferth Megaloceros giganteus, a enwyd gynt yn gawrgarw Gwyddelig, yn gawrgarw mewn gwirionedd ond yn fws (ac mae’n dod o Ogledd America beth bynnag), Yn wir, mae dilyniant ei DNA yn dangos ei fod yn perthyn yn agos i’r hydd brith. Ond mae gweddillion llawer iawn ohonynt wedi cael eu tyrchu o fawndiroedd Iwerddon a gall pwy bynnag sydd wedi dod ar draws un o’r niferoedd o ysgerbydau’r Megaloceros, wedi’u harddangos yn ein hamgueddfeydd, dystio nid yw ‘anferth’ yn gor-ddweud. Ond nid dim ond yn yr Iwerddon y maent i’w cael – mae gennym ni esgyrn ceirw anferth o sawl ogof (a man agored) yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys Ffynnon Beuno a Chae Gwyn ym Mryniau Clwyd.
Mae’r hyn a achosodd dranc y rhywogaeth dra atgofus hon – yr hydd â’i goron o gyrn urddasol – wedi bod yn destun cryn ddadlau. Yn ddiweddar, ni sy’n cael y bai am ddifodiant llawer o fegaffawna drwy’r ddamcaniaeth o ‘or-ladd’. Hynny yw, bod anifeiliaid mawr o dirweddau ar draws y byd – oll yn debyg i’r hyn rydym ni yn cysylltu bellach yn gyfan gwbl â’r Serengeti yn nhermau helaethrwydd bywyd – yn diflannu oherwydd gor-hela gan boblogaeth gynyddol yr Homo sapien. Ar sail y dystiolaeth gyfredol mae’n anodd anghytuno â hyn.
Fodd bynnag, yng nghyd-destun y Megaloceros nid yw hwn yn gwneud synnwyr. Erbyn i fodau dynol gyrraedd yr Iwerddon roedd wedi diflannu ers sawl mil o flynyddoedd.Hwyrach, yr oeddynt wedi methu addasu i’r tymereddau cyfnewidiol ar ddiwedd yr Oes Iâ ddiwethaf – cadarnhad grymus arall o’r egwyddor ‘addaswch neu byddwch farw’. Ond i’r un graddau gallwn ystyried y wireb sy’n ein hatgoffa ‘rhaid i bob dim ddarfod’. Yn syml, oherwydd ystod eang o ffactorau mewn byd bythol newidiol, roedd eu cyfnod wedi dod i ben.