Bual

Bual y Gwastatir
Bison priscus
250,000 – 25,000 o flynyddoedd Cyn y Presennol
Torion papur bual, torion papur ych hirgorn, esgyrn coes a dannedd bual Pleistosenaidd, DNA bual hynafol a ddilyniannodwyd o esgyrn a ganfuwyd ym Môr y Gogledd

Ganed Syr William Boyd Dawkins o Brifysgol Rhydychen ac Amgueddfa Manceinion yn Nhal-y-bont Trewern ger Y Trallwng yn 1837. Yn ystod ei yrfa liwgar ac, yn amlach na pheidio, dadleuol, treuliodd gryn dipyn o amser yn crwydro Bryniau Clwyd a’u gofodau tanddaearol, gan gynnwys Ffynnon Beuno, Cae Gwyn a’r Gop. Er ei fod yn dipyn o ddihiryn (yn ôl pob tebyg) roedd yn hynod o dda at adnabod esgyrn a dannedd mamaliaid yr Oes Iâ,ond yn llai manwl wrth ddogfennu beth a ble y cafodd hyd iddynt – maen tramgwydd mawr i ymchwilydd a oedd yn awyddus i gynnal ei hygrededd gwyddonol. Ar restr flêr o ganfyddiadau, mae’n nodi Bos-2 ar gyfer Cae Gwyn a Bos-20 ar gyfer Ffynnon Beuno. Mae ‘Bos’ yn cyfeirio at anifeiliaid carnog tebyg i wartheg mawr – weithiau’r ychen hirgorn (ein gwartheg gwyllt brodorol sydd bellach wedi mynd i ddifancoll) ac weithiau’r bual. Mae’n anodd iawn gwahaniaethu rhwng y ddau…

Bellach, dros ganrif wedi marw Syr William, mae gwaith ymchwil DNA wedi dod â gogwydd tra gwahanol i’r modd rydym ni’n diffinio rhywogaethau, eu cydberthynasau a suty maent wedi dod i fodolaeth. Er enghraifft, mae’n dangos bod ychydig bach o’r peth gwyllt yn perthyn i’n gwartheg modern ni, gan fod yr ychen hirgorn yn anifail o gryn faint, yn chwim a ffyrnig, ac yn llawer mwy peryglus na’r llew neu’r lyncs. Ond ein bod ni ar y cyfan wedi dofi’r creadur drwy fridio detholus, wrth i amaethwyr geisio dod â’r tir dan reolaeth – cyn gynted ag yr oedd yr hinsawdd yn eu caniatáu i wneud hynny. Mae hefyd yn dweud rhywbeth cyfareddol ynglŷn â chelfyddyd yr ogofâu a’n gallu i arsylwi, sydd eto yn gysylltiedig â’r hinsawdd.

Yn y paentiadau ar nenfwd yr ogof yn Altamira yng ngogledd Sbaen, mae’r bual wedi’i ddarlunio’n hollol wahanol i’r rheiny yn Lascaux, Ffrainc. Mae’r olaf yn fwystfilod mawr gwargrwm gyda chyrn hir – yn amlwg iawn yn fual y stepdir (Bison priscus) sydd wedi mynd i ddifancoll – tra bod bual Altimira yn llawer llai helaeth. Tybiai ymchwilwyr y 19eg a’r 20fed ganrif mai dim ond mater syml o amrywiad arddull oedd y gwahaniaeth a oedd yn adlewyrchu golygon diwylliannol amryfal (neu unigol).

Fodd bynnag, mae astudiaeth o DNA bual hynafol gan y Doethur Julien Soubrier o Brifysgol Adelaide yn dangos mewn gwirionedd bod dwy rywogaeth wahanol. Dangosodd ei waith ymchwil fodolaeth ‘ddolen goll’ – canlyniad cyfathrach rhwng bual y stepdir gwryw ac ychen hirgorn benyw dros 120,000 o flynyddoedd yn ôl.

Mae presenoldeb y Bual Higgs hwn, sydd ond i’w ganfod drwy olion DNA, yn cyfateb i’r cyfnodau oer, gan awgrymu ei fod yn gallu addasu’n well i dymheredd is. Ac felly bod y paru traws-fuwchaidd anghonfensiynol hwn wedi galluogi’r bual, yn y pen draw, i oroesi’r rhewi mawr diwethaf ac esblygu’n fual Ewropeaidd Bison bonasus – yn eironig braidd, bu bron i hwn gael ei ddifa’n llwyr gan filwyr Almaenig oer a newynog adeg y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ceir cadarnhad rhagorol drwy wyddoniaeth a chelfyddyd – drwy dynnu DNA o esgyrn hynafol y bual mae’r dyddiadau yn cyfateb i’r hwnnw a gafwyd o baentiadau ogofâu – mae’rmwyafrif o ddarluniau o fuail bychain wedi’u creu yn ystod y cyfnodau oer tra bod y Priscus mawrion wedi’u paentio yn ystod y cyfnodau pan oedd pethau wedi cynhesu.

Yng nghyd-destun llinyn mesur goroesi, nid yn unig yw hwn yn dangos bod cysylltiadau anghonfensiynol yn gallu bod yn fanteisiol tu hwnt, ond hefyd bod artistiaid wastad wedi bod yn weithredwyr pwysig, a chywir, wrth ddogfennu effeithiau newid hinsawdd…

%d bloggers like this: