
Ursus arctos
300,000 – 1,000? o flynyddoedd Cyn y Presennol
Torion papur Eirth, esgyrn troed a choes arth Pleistosenaidd, DNA arth hynafol a ddilyniannodwyd gan yr Athro Ceridwen Edwards, Prifysgol Huddersfield
Wrth feddwl bod eirth go iawn wedi crwydro Bryniau Clwyd hwyrach bod ein hatgofion o dedi bêrs annwyl yn codi rhyw hiraeth cynnes ynom, ond wedyn mae eu habsenoldeb yn dod ag ychydig o ryddhad wrth i ni ystyried ‘dannedd ac ewinedd arswydus’ y creadur arthaidd. Pa ddarlun bynnag y maent yn dwyn i’r meddwl, yn y fan yma dyna yr oeddynt.
Mae’r rhan fwyaf ohonom ni’n cynhesu at y syniad o’r arth – heblaw ei fod yn gwtshlyd,hwyrach y maent yn ein hatgoffa ni ohonom ni’n hunain. Dyma mae’n bosib pam fod yr arth wen wedi cael ei mabwysiadu’n un o brif symbolau ar gyfer gweithredoedd y mudiad amgylcheddol ar newid hinsawdd yn yr Arctig. Ac, yn ogystal dyma’r rheswm pam fod ycyfryngau yn adrodd gydag ymdeimlad o arswyd bod y cynnydd mewn tymheredd yn effeithio ar gwmpasau hela’r arth wen, gan achosi iddynt ddod i gysylltiad â’r arth lwyd ac, o ganlyniad yn rhyngfridio.
Er bod hwn yn swnio’n frawychus, mae dilyniannodi DNA yr arth hynafol yn dangos, fel yn achos rhywogaethau agos eraill, bod ‘paru peryglus’ achlysurol wastad wedi digwydd ar yr ymylon. Yn ôl canfyddiad y tîm a arweiniwyd gan y Doethur Ceridwen Edwards (Prifysgol Huddersfield bellach) a oedd yn ymddangos yn rhyfeddol i gychwyn, mae’n edrych fel pe baipob arth wen fodern yn ddisgynnydd i’r arth frown Wyddelig, sydd bellach wedi darfod. Ac yn yr un modd, mae astudiaethau cyfoes o’r arth lwyd yn Alasga yn dangos bod ganddyntraddau amrywiol o enynnau’r arth wen yn eu gwneuthuriad. Mae hyn oll yn awgrymu bodyna elfen o hyblygrwydd yma, sydd yn ei thro yn herio ein syniad o beth yn union yw rhywogaeth.
Efallai na ddylai hwn ein synnu ni. Rydym ni’n gwybod bellach bod gan lawer ohonom gydran Neanderthal yn ein DNA, sy’n dystiolaeth bod y rhywogaeth ddynol wedi rhyngfridio yn y gorffennol. Mae’r union syniad bod rhywogaeth yn rhywbeth gwbl bendant yn ymddangos braidd yn ddiffygiol gan fod pob dim yn symud yn barhaus, ac yn newid mewn ymateb i’r amgylchedd a’r hyn y mae’n taro i mewn iddynt. Ond mae problemau mawr yn codi pan fo rhywbeth yn digwydd yn sydyn iawn, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd, ac nid yw rhywogaethau’n gallu addasu’n ddigon cyflym.
Felly, er bod y syniad o hybrid yr arth wen-lwyd yn llai annaturiol nag y mae’n ymddangos,nid yw’n golygu mai twyll yw’r bygythiad o newid hinsawdd wedi’i achosi gan ddyn, na chwaith yn lleihau’r realiti bod y grymoedd ‘annaturiol’ – hynny yw, ni – sydd yn ei achosi yn rhyddhau tswnami o wenwynau i’r amgylchedd. Yr un yw bygythiad y ddau i’r holl fywyd ar y ddaear – gan gynnwys ni. Mewn gwirionedd mae’r sefyllfa bresennol yn drychineb i’r Homo sapiens yn arbennig, gan ein bod ni wedi dod i ddisgwyl – i fynnu ataliad – y stasis y mae ein gwareiddiad cynyddol drefol wedi’i sefydlu arno. O ganlyniad, rydym ni’n ymwrthod yn ddirfawr â’r syniad o newid gan ei bod yn llawer mwy anodd i newid. Ni fydd y diffyg hyblygrwydd hwn yn ychwanegu at ein gobaith o oroesi. Hwyrach bod angen i ni fod yn fwy plastig – yn hytrach na llethu systemau ecolegol y Ddaear â’r stwff.